Cafodd Mr. Henry Richard ei fendithio hefyd â mam ragorol, un o sefyllfa dda, wyres i un o hen gynghorwyr y Methodistiaid. Dywedir y byddai yn cyflawni swydd bugail yn ystod absenoldeb ei gwr. Yr oedd yn hynod fel heddychydd rhwng pleidiau cynhennus, yn gymaint felly, fel y gelwid hi yn Ustus Heddwch; teitl priodol iawn i fam "Apostol Heddwch."
Nid rhyfedd fod Mr. Henry Richard, yn ei ddyddiau olaf, yn arbennig, yn teimlo yn falch, ac yn datgan mor groew, ei "fod wedi hanu o gyff da, cyff ag oedd wedi gwasanaethu Cymru yn y dyddiau gynt." Ar ôl bod yn troi ymysg mawrion byd, ar ôl blynyddau lawer o lafur yn y Senedd, yr oedd adgofion am hen bregethwyr Cymru, a'r dylanwadau grymus oedd yn cyd—fyned â'u pregethau, yn anwyl mewn cof ganddo. Hyd yn oed yn ei ddyddiau olaf, pan ar ymweliad â Mr. Richard Davies, Treborth, aeth i Gymanfa Caernarfon, pryd y torrodd "gorfoledd" allan o dan bregeth rymus y diweddar Dr. Owen Thomas. Llawenychai Mr. Richard yn fawr, a theimlai yn ddwys, a dywedai ar ôl dychwelyd i'r tŷ, fod yn dda ganddo ei fod wedi myned i Gaernarfon y dydd hwnnw. "Clywais orfoledd," meddai, "lawer gwaith pan yn fachgen, ond ni thybiais y cawswn ei glywed mwy." Yn ei