Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/23

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Letters and Essays on Wales, am y rhai y cawn sylwi eto, rhydd Mr. Richard ddesgrifiad byw iawn o neilltuolion a rhagoriaethau pregethwyr Cymru. Drwg gennym nas gallwn ei ddodi yma yn llawn, ac ni fyddai ei dalfyrru ond yn gwneud cam â'r fath ddernyn prydferth o gyfansoddiad. Pan oedd Mr. Richard yn byw yn Llundain, ni fyddai byth yn fwy hapus na phan yn cael cyfleustra i ymddifyrru yn yr adgofion am danynt. Ein profiad yw, y gall dyn droi ymysg Saeson a mawrion byd am flynyddau lawer, ond y cyfryw ydyw rhagoroldeb pregethau Cymraeg fel y mae eu hargraff ar y meddwl bron yn anileadwy.

Do, fe gafodd Mr. Richard ei eni a'i fagu yng nghanol y bywyd crefyddol grymus ag oedd yn creu Cymru o'r newydd ar y pryd. Carai y capel a phethau y capel hyd y diwedd. Nid oedd dim yn ormod ganddo ei wneud, na dim gorchwyl yn rhy isel ganddo ei gyflawni, os byddai yn wasanaeth i grefydd. Dywedir y byddai yn aml, pan yn fachgen yn Nhregaron, yn dringo yr ysgolion, ac yn glanhau ffenestri y capel.

Am addysg fydol Mr. Richard, pan yn ieuanc, nid oes nemawr i'w ddweud. Gan y bu ei dad yn cadw ysgol, a'i fod yn ysgolhaig gweddol dda ei hunan, bu yn ofalus i roddi yr addysg oreu a