allai i'w blant, er nad oedd ganddo lawer o dda y byd hwn. Yr oedd ganddo dri o blant ereill, sef Edward, y meddyg yr hynaf, a'r hwn a fu farw yn 1866; a dwy ferch, Mary (Mrs. Morris), yr hon a fu farw yn 1882; a Hannah (Mrs. Evans), yr hon a fu farw yn 1884. Bu Henry (gwrthrych ein Cofiant) yn yr ysgol Ramadegol yn Llangeitho; ac hefyd yn ysgol Mr. John Evans, y mesuronydd enwog, yn Aberystwyth, lle y bu amryw o enwogion ereill Cymru o dan addysg, megys Dr. Lewis Edwards, y Bala, a'r Parch. David Charles Davies, " triawd o ŵyr rhagorol o feddwl a deall uchelryw, yn cynrychioli Cymru fechan yn ei diwinyddiaeth, ei gwleidyddiaeth, a'i gwyddoniaeth." Oddiwrth yr hanes a rydd Dr. Lewis Edwards yn y Goleuad am Medi 11, 1875, a Mr. Samuel yn yr ail gyfrol o'r Cymru, am y John Evans hwn, amlwg yw ei fod yn ysgolfeistr campus. Yr oedd, nid yn unig yn fesuronydd da, ond hefyd yn ddiwinydd rhagorol, ac yn ysgrythyrwr di—ail; a di—os yw, fod addysg y fath un a Mr. Evans—yr hwn oedd hefyd yn flaenor yng nghapel y Tabernacl yn Aberystwyth—wedi cael ei fawr werthfawrogi gan un o gyneddfau cryfion Henry Richard ieuanc, ac wedi creu ynddo awydd cryf am ychwaneg o wybodaeth. Mae y chwant am ddysg, pan enynnir ef, yn dod yn angherddol.