Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/234

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ac yn enwedig am addysg i Gymru; yr ydoedd hynny trwy ei oes wedi bod yn agos iawn at ei galon, fel y danghosai ei ymdrechion o blaid addysg elfennol, a thrachefn am flynyddoedd ynglŷn â Choleg Aberystwyth; ond y rhyfeddod oedd fod unrhyw lywodraeth Seisnig wedi gallu synied fod Ymneillduwr, ac Ymneillduwr Cymreig, yn meddu cymhwyster i osod ynddo unrhyw ymddiried o'r fath, Yr oedd ei benodiad iddo ef ei hunan hefyd yn destyn pryder, er i'r peth droi allan yn well na'i ofnau. "Pan wahoddwyd fi," meddai, mewn cynhadledd yng Ngwrecsam, "gan Arglwydd Spencer i ffurfio rhan o'r pwyllgor, yr oeddwn mewn cryn bryder am mai fi, y pryd hwnnw, oedd yr unig Ymneillduwr arno. O leiaf, nid wyf yn siwr o fy nghyfaill, y Proffeswr Rhys. Bu efe unwaith yn Ymneillduwr, ond mae yn Broffeswr yn Rhydychain yn awr, ac y mae arnaf ofn na allwn edrych arno ef, ar tir goreu ond yn unig yn amhleidiol." Ond cydnabyddai yn rhwydd iddo gael ei gyd-aelodau ar y pwyllgor yn foneddigion perffaith, a bod eu hargymhelliadau yn y diwedd yn dangos eu bod yn credu y rhaid i unrhyw gynllun addysgawl i Gymru, i fod yn llwyddiannus, fod mewn cysondeb a golygiadau corff mawr y bobl, ac i'r bobl gael bod yn ddehonglwyr eu teimladau eu hunain. Parhaodd yr