Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/248

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

myned trwy'r cwbl, a danfonwyd un Mr. Cave, o'r wlad hon, i edrych i mewn i sefyllfa arianol y Khedive. Credai Mr. Cave nad oedd modd gwneud dim heb i ni gymeryd arnom gyfrifoldeb arianol pwysig; ac ym mis Mai, 1876, cyhoeddodd Ismael nas gallai dalu y llogau. Gallesid meddwl, ar ryw gyfrif, mai gwell fuasai gadael rhwng y gwŷr arianog a roddasant fenthyg eu harian ar logau mor fawr rhwng 12 a 263 y cant—a'u helynt. Ond yr oedd eu dylanwad yn rhy fawr, yn y ddwy wlad, i gael ei ddibrisio. Danfonwyd Mr. Rivers Wilson gan y wlad hon, ac wedi hynny Mr. Goschen, a M. Joubert ar ran Ffrainc, i gynrychioli y gwŷr arianog oeddent yn dal ysgrif-rwymau, sef y bond-holders. Y mae Mr. Richard, yn ei araeth yn y Senedd, yn 1882, yn galw sylw arbennig at y ffaith, pan benodwyd Mr. Rivers Wilson yn aelod o Gyfrin-Gyngor yr Aifft, fod Llywodraeth Prydain yn ymwrthod â phob cyfrifoldeb yn yr achos. Ni wnaeth ond rhoddi benthyg gwasanaeth Mr. Rivers Wilson, megys am ddwy flynedd, i geisio gwastad hau eu cyfrifon a diogelu taliad y llogau os gellid. Gwnaed ef yn Weinidog y Cyllid. Ar hyn, mynnodd Ffrainc gael cynrychiolydd hefyd ar y Cyfrin-Gyngor, a phenodwyd M. de Bligniers. Cododd anesmwythder ymysg y bobl, a diswyddodd y