Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/253

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ereill, mae lle i gredu y buasai y rhyfel hwnnw wedi ei osgoi, ac na fuasai yr holl helynt a ddilynodd, hyd ryfel y Soudan, wedi cymeryd lle. Pan roes Mr. Bright ei swydd i fyny, yr oedd yntau yn teimlo yn drist oherwydd gwahaniaethu oddiwrth ei gyfaill, Mr. Gladstone. Pan yn esponio, yn y Senedd, ei waith yn ymddiswyddo, dywedai,—

"Chwi ellwch ofyn paham na fuaswn yn gwneud hyn yn gynt. Y gwirionedd syml ydyw fy mharch dwfn i'm cyfaill gwir anrhydeddus, y Prif Weinidog, ac i'r rhai sydd yn eistedd gydag ef, a barodd i mi oedi hyd y funud olaf. ... Yr oeddwn yn anghytuno ar bwnc o egwyddor, a phe buaswn yn dal fy swydd, buasai raid i mi ymostwng yn ddistaw i gario allan fesurau yr oeddwn i fy hun yn eu condemnio yn hollol, neu buasai raid i mi fod mewn cweryl parhaus & fy nghyd-swyddogion. Gŵyr y Tŷ fy mod am 40 mlynedd wedi ceisio dysgu fy nghydwladwyr yn y syniad fod y ddeddf foesol yn rhwymedig ar genhedloedd fel ar bersonau. Yn yr achos hwn yr ydwyf yn credu fod y gyfraith foesol wedi ei throseddu, ac o ganlyniad nis gallwn i gydsynio. ... Nis gallaf wadu yr hyn y bum yn ei bregethu a'i ddysgu drwy fy holl oes boliticaidd. Gofynnais i'm barn bwyllog, ac i fy nghydwybod, pa gwrs y dylasyn ei gymeryd. Yr wyf yn meddwl eu bod wedi ei bwyntio allan i mi â bys di-gamgymeriad, ac yr wyf yn ceisio ei ddilyn."

Y mae yn deg hysbysu yma, hefyd, y dywed yr Herald of Peace (Ebrill, 1889, t.d. 205), fod