Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/27

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

PENNOD II

Mr. Richard yn gadael cartref—Yn myned at frethynnwr i Gaerfyrddin—Yn meddwl am bregethu—Yn myned i'r Athrofa yn Highbury—Ei fywyd yno am bedair blynedd.


(1826) Wedi bod fel hyn o dan addysg fydol dda, ac wedi anadlu yr awyrgylch grefyddol fwyaf pur, cawn fod ddau frawd, Edward a Henry, yn y flwyddyn 1826, wedi myned i fyw i Gaerfyrddin, lle y buont am dair blynedd. Aeth Edward, yr hynaf, at feddyg yno, a Henry i wasanaethu ym masnachdy Mr. Lewis, brethynnwr. Mae'n ddigon tebyg fod Henry, fel y diweddar Barch. Herber Evans, yr hwn a fu mewn sefyllfa gyffelyb yn Lerpwl, yn teimlo yn fynych fod ynddo gymwysterau at waith llawer rhagorach na sefyll tu ol i'r bwrdd i werthu brethynnau. Pa fodd bynnag, cawn ei fod, ymhen tair blynedd, yn dychwelyd adref, ond nid heb brawf ei fod wedi gwasanaethu ei feistr yn ffyddlon, ac wedi rhoddi llwyr foddlonrwydd iddo ef ac i'w rieni. Mae yng Nghofiant Parch. Ebenezer Richard, a ysgrifennwyd gan ei feibion, fel y crybwyllwyd, liaws o lythyrau