Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/28

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

oddiwrth y tad parchedig at y meibion, yn dangos y gofal a'r pryder mawr oedd yn ei feddiannu mewn perthynas i'w crefydd a'u buchedd tua'r pryd hwn. Diau y bu y llythyrau hyn yn galondid mawr i'r ddau fab, yn help i'w cadw ar lwybrau rhinwedd, ac i ddyfnhau eu teimladau crefyddol. Tra yr ydoedd Mr. Henry Richard gartref, yr adeg hon, cawn ei fod wedi ei dderbyn yn "gyflawn aelod " ymysg y Methodistiaid Calfinaidd, yr hyn a ystyriai yn gam pwysig iawn yn ei fywyd.

(1830) Pan oedd Mr. Richard yn dynesu at fod yn ddeunaw oed, a phan yn byw yn Aberystwyth, danfonodd lythyr at ei dad, dyddiedig Ebrill 24, 1830, yn datgan ei awydd i ymroddi i waith y weinidogaeth,—awydd y bu yn ei ddirgel goleddu am amser cyn hynny. Mae y llythyr yn dangos teimlad gwylaidd a dwys, ac yn datgan llwyr benderfyniad i ymostwng i farn ei dad. "Bydd eich gair chwi," meddai, i mi yn ddeddf;"—geiriau ag y mae yn anhawdd gwybod pa un ai ar y mab ynte tad y maent yn adlewyrchu mwyaf o anrhydedd.

Ymddengys nad oedd cynhwysiad y llythyr hwn yn synnu dim ar y teulu. Danfonodd y tad atebiad iddo yn ei gynghori yn ddifrifol i ledu mater ger bron Duw mewn gweddi, ac