Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/287

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

newyddiaduron anturiaethus gymaint, fel ag i ymwthio i mewn i'r terra incognita hwn. Aethant i'r parthau hynny o'r wlad lle y drwedir wrthym 'fod y bobl wedi eu hysgaru oddirrth wareiddiad Seisnig,' pa beth bynnag y mae hynny yn ei feddwl. Fel canlyniad y gwibdeithiau anturiaethus hyn, llanwyd y newyddiaduron â phob math o adroddiadau cyffrous, mwy neu lai amheus, o'r hyn a welsant ac a glowsant, a phortreadwyd cymeriadau personau a dosbarthiadau mewn math o anferthlyn beiddgar ag sydd mewn rhan wedi difyrru, ac mewn rhan wedi llidio y bobl y buont yn treio eu llaw arnynt, a chwynant gyda phwyslais pendant, eu bod wedi eu camddarlunio a'u henllibio. Un o'r pethau y mae yr ymchwilwyr hyn wedi ei ddarganfod, a'r hyn y maent yn ei gyhoeddi i'r byd gyda diniweidrwydd plentynaidd, ydyw y ffaith mai Cymraeg ydyw iaith ymddiddan cyffredin ymysg saith o bob deg o drigolion y 'wlad dywell' hon; datguddiad sydd ynddo ei hun yn ddigon i daro y Philistiad Seisnig & dychryn, gan fod yr argyhoeddiad yn llechu yn ei fynwes, er na feiddia ei grybwyll, nad oes dim modd i unrhyw bobl fod yn bobl wir wareiddiedig, os na fyddant yn siarad Saesneg.

"Ond nid dyma'r cyfan; oblegid cawsant allan ymhellach fod nifer fawr o newyddiaduron a chyhoeddiadau ereill yn dod allan yn yr iaith Gymraeg, a'u bod i fesur dychrynllyd yn nwylaw Anghydffurfwyr; hefyd ac y mae hyn yn cyrraedd pwyut uchaf ofnadwyaeth-eu bod yn cael eu golygu gan Weinidogion Ymneillduol, a chan nad yw Gweinidogion Ymneillduol nemawr well na dyhirod fit for treason, stratagems, and spoils; caniateir i'r darllennydd crynedig i ddychmygu y perygl y gellir dwyn ein sefydliadau iddo, pan y mae y fath ddynion yn trin offeryn mor ofnadwy, a hynny mewn iaith na ddeallir mo honni gan wylwyr gwareiddiad Seisnig. Beth ydyw yr holl