Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/289

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Ymneillduol, Gweinidogion Ymneillduol a Newyddiaduron Ymneillduol ? Mae yn bur hawdd esponio. Mae Cymru yn Rhyddfrydol mewn materion gwladwriaethol, a chan fod yr Anghydffurfwyr yn cyfansoddi asgwrn cefn y blaid Ryddfrydol, yr amcan mawr yw camliwio ac enllibio yr Anghydffurfwyr gymaint ag a ellir. O ganlyniad, taenir ar led yr haeriadau a'r cyhuddiadau mwyaf disail, y rhai sydd nid yn unig yn adychu anwybodaeth dybryd, ond llwyr anallu i ddeall a gwerthfawrogi nodweddion symlaf Cymdeithas Gymreig, neu yn wir, i ddeall yn iawn y ffeithiau symlaf sydd yn gorwedd ar y wyneb. Er esiampl, fe ddywedir wrthym drachefn a thrachefn, fod nifer y Sectau Anghydffurfiol yn lleng,' y 'ceir capelau yn perthyn i bob sect posibl ym mhob man.' Mae amcan y cyfryw haeriadau yn ddigon eglur, sef peri dirmyg a chreu rhagfarn. Os cyrhaeddir yr amcan hwn, nid yw o un pwys eu bod yn hollol groes i ffeithiau. Oblegid fe wyr pob dyn nad yw yn meddu ond y wybodaeth fwyaf arwynebol am Ymneilltuaeth Gymreig, mai ychydig iawn yw nifer sectau Cymru, gan fod corff mawr yr Anghydffurfwyr yn cael eu gwneud i fyny o'r pedair canlynol, sef Methodistiaid Calfinaidd, Anibynwyr, Bedyddwyr, a Methodistiaid Wesleyaidd. Ymysg y rhai hyn y mae llawer llai o amrywiaeth athrawiaeth ac eiddigedd nag sydd ymysg y Sectau o fewn Eglwys Loegr, am y rhai y dywedwyd wrthym gan y Times, ei fod yn ddigon hysbys y gall clerigwr yn yr Eglwys honno ddysgu unrhyw athrawiaeth nad oes ond y mwyaf cyfarwydd a all ei gwahaniaethu oddiwrth Babyddiaeth, Calfiniaeth neu Ddeistiaeth.

“Dywedir wrthym hefyd fod yr holl enwadau Ymneillduol yn sefydliadau politicaidd, llawn o