Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/295

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Crimea, lle yr oedd Mr. Richard i draddodi darlith, a'r Parch. Henry Rees (tad Mrs. Richard Davies), i fod yn gadeirydd; y modd parchus y siaradai "ddau Mr. Rees," ac y mawr ofnai rhag iddynt ymollwng gyda llifeiriant rhyfelgar y dyddiau hynny, gan y gwyddai mor fawr oedd eu dylanwad. Diau fod adroddiadau dyddorol Dr. Owen Thomas am yr hen bregethwyr, tuag at y rhai y teimlai Mr. Richard y fath barch dwfn, a phregethau y rhai a wnaeth y fath argraff arhosol ar ei feddwl, yn rhoddi mawr foddhad iddo. Dyma'r pryd yr aeth i Gymanfa Caernarfon, ac y clywodd "orfoleddu" o dan bregeth Dr. Owen Thomas, fel y crybwyllwyd eisoes.

Nos Lun, yr 20fed, yr oedd Mr. Richard gyda nifer o gyfeillion yn Nhreborth, yn ciniawa gyda'i londer arferol; a thuag un-ar-ddeg o'r gloch, bu raid iddo adael yr ystafell oherwydd ei boenau. Aeth ei ddirdynfeydd yn waeth. Danfonwyd am y meddygon, Dr. John Roberts a Dr. John Richards, yn ddioed. Ond yr oedd yn rhy ddiweddar! Ychydig cyn hanner nos, rhoes angeu esmwythid iddo o'i boenau ym mhresenoldeb ei wraig, a Mr. a Mrs. Davies, a'r lluaws cyfeillion oeddent yn gwylied o amgylch ei wely.

Fel hyn y cafodd y Cymro gwladgarol hwn farw yn y wlad a garai mor fawr, neu, fel y