Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/30

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

aethum gyda chwi, â chalon grynedig, pan eich gwysiwyd i'w presenoldeb! Mor fynych y bum yn gofyn—Pwy ydyw y bachgennyn gwridgoch acw sydd yn sefyll o flaen doctoriaid dysgedig Llundain ? Ai fy anwyl Henry ydyw? Ie, efe yw. Nid yw bosibl! Os efe yw, pa le y mae ei gyfeillion a'i gynorthwywyr? Pa le y mae ei gynghorwyr a'i gyfarwyddwyr? Os oes ganddo y cyfryw, y maent yn hollol anwybodus o'i sefyllfa bresennol; gall ddywedyd gyda'r Salmydd, Car a chyfaill a yrraist ym mhell oddi wrthyf.' A oes ganddo neb i ateb drosto? Pa le y mae ei dad, a'i fam,—yr hon a'i hymddug? Y maent ragor na dau gant o filltiroedd oddi wrtho, yng nghanol mynyddoedd Cymru. A oes ganddo neb cydnabod yn Llundain ag y geill droi atynt? Nac oes; neb yn y byd! Wel, yn wir, y mae e' yn unig iawn—wedi ei adael gan yr holl fyd! Ond, boed felly; mi allaf fi ganfod nad ydyw yn unig—yr oedd Duw hwnnw oedd gyda Joseph o flaen Pharoah, gyda Henry o flaen y Cyfeisteddiad, yn dadleu ei achos ac yn ateb drosto—Duw hwnnw a arweiniodd ei rieni y deugain mlynedd hyn yn yr anialwch, a fu yn gynghorwr ac yn gynhorthwy iddo. Bydded yr holl fawl iddo ef !"

Pwy fedr ddesgrifio y fath galondid i'r gŵr ieuanc, yng ngwyneb ei anfanteision ar y pryd, oedd cael y fath lythyr a hwn oddiwrth dad oedd mor lawn o gydymdeimlad ag ef?

Pan yn Highbury daeth i gydnabyddiaeth â gŵyr ieuainc o gyffelyb feddwl ag ef ei hun, ac yn eu mysg, Syr Hugh Owen, y Parch. David Thomas, ac ereill. Bu yn Highbury am bedair blynedd. Yn y Congregationalist, am y flwyddyn