Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/31

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

1876, fe ysgrifennodd Mr. Richard ddwy erthygl o'i Adgofion am ei gyfaill, y Parch. David Thomas, ar gais golygydd y cyhoeddiad hwnnw; a chan fod yr erthyglau yn cynnwys hanes o'r modd y cafodd Mr. Richard dderbyniad i Highbury, ac o'i fywyd colegawl am y tymor y bu yno, a'u bod wedi eu hysgrifennu mewn arddull mor ddyddorol, gwnawn rai dyfyniadau ohonynt.

Ar ol desgrifio bywyd boreuol Mr. Thomas, ei ddygiad i fyny gyda'r Methodistiaid, a mantais y Seiat" fel moddion amaethiad crefyddol, dywed:

"Dyma'r pryd y daethum i gydnabyddiaeth ag ef. Yr oeddwn innau wedi penderfynu cysegru fy hun i'r weinidogaeth. Fel Mr. Thomas, yr oeddwn yn Fethodist Calfinaidd, yn fab i weinidog enwog a phoblogaidd perthynol i'r enwad hwnnw. Ond nid oedd gan y Methodistiaid Cymreig un Athrofa nac ysgol i roddi addysg i ŵyr ieuainc ar gyfer y weinidogaeth. Mae ganddynt yn awr ddau o sefydliadau o'r fath, un yn y Bala, ac un arall yn Nhrefecca. Yr oeddwn i wedi penderfynu peidio bod yn weinidog heb addysg athrofaol, ac felly daethum i Lundain heb un cynllun penodol, ond gyda phwrpas penderfynol i weithio fy ffordd, os oedd modd, i ryw sefydliad a roddai i mi ddymuniad fy nghalon. Yr oedd yr anturiaeth yn un wyllt. Nid adwaenwn neb; ni ddygaswn gyda mi unrhyw lythyrau cyflwyniad, oblegid yr oedd Llundain, y dyddiau hynny, ymhell iawn o Gymru, a chyfleusterau trafodaeth rhwng y ddau le yn anaml ac anghyfleus. Yn ffodus aethum i