Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/32

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

letya i dŷ'r capel, a phan ddywedais wrth rai o'r cyfeillion fy amcan, hysbyswyd fod gŵr ieuanc o Ferthyr o'r enw David Thomas yn lletya yn y tŷ, a'i fod ar fedr myned i Athrofa Highbury. Ymgyfarfuasom. Yr oedd David Thomas yn llanc tal a theneu, ysgwyddau llydain ganddo, a thoraeth o wallt melynaidd heb fawr o drefn arno. Adwaenai fy nhad yn dda, yr hwn, and odid, a dderbyniasid i dŷ ei fam ym Merthyr yn ystod rhai o'i ymweliadau â sir Forgannwg, oblegid yr oedd llafur fy nhad yn cyrraedd dros bob parth o'r Dywysogaeth. Clywsai ef yn pregethu lawer gwaith, a choleddai y parch dwfn hwnnw tuag ato, ag oedd yn ymylu bron ar addoliad,—sydd yn cael ei deimlo gan y Cymry, ac yn enwedig y Cymry Methodistaidd at eu pregethwyr mawr.

Derbyniodd fi, gan hynny, yn garedig, ac aeth a fi at Thomas Wilson. Nid af i adrodd hanes fy nerbyniad i Highbury, er ei fod i mi yn ddigon difyrrus. Y cwbl a ddisgwyliwn oedd cael fy nanfon ar brawf am dymor i Rowell, fel yntau. Ond rhywfodd, llwyddais i basio gyda'r ychydig wybodaeth a feddwn, ac ar ol myned trwy y prawf arswydus o bregethu o flaen y pwyllgor, a'r arholiad a ddilynodd, cefais fyned ar unwaith i'r Athrofa."

Ar ol son am y cyfeillgarwch cynnes a dyfodd rhyngddo â Mr. Thomas, y mynych ymddiddanion a'r dadleuon rhyngddynt ar bob math o bynciau; a dylanwad daionus ei gyfaill arno, dywed ei fod ef a Mr. Thomas o dan yr anfantais o fod yn gorfod ymarfer yn gyhoeddus mewn iaith ag oedd iddynt hwy yn un ddieithr, ac