Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/33

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

mewn dull nad oeddent hwy wedi cynefino ag ef, ac "fel hyn," meddai, "er ei fod ef a minnau wedi ein dwyn i fyny mewn awyrgylch pregethwrol, nid aethom i mewn gydag un sêl arbennig i'r cydymgais areithyddol ag oedd yn cyfansoddi y symbyliad mwyaf i lafur yn Highbury y pryd hwnnw." Rhydd Mr. Richard ddesgrifiad doniol o'r helbul y byddai efe a Mr. Thomas ynddo oherwydd eu hoffter o bregethau Cymraeg. Tynnent wg Dr. Halley arnynt, am y byddent yn hwyr, yn fynych, yn dychwelyd i'r Athrofa ar nos Sabothau. Ceuid y pyrth am ddeg, ac ar ol hynny cenid y gloch, a chymerid enwau yr hwyrddyfodiaid i'w rhoi i'r athraw.

"Ond," meddai, "yr oedd y gwasanaeth yn y capel Cymraeg yn fynych yn gynwysedig o ddwy bregeth, a chyfarfod eglwysig ar ol hynny, yr hwn a barhâi am amser maith. Yr oedd cerdded o Jewin Crescent i Highbury yn cymeryd awr gron. Nid oedd Omnibuses ond yn dechreu dod i arferiad, ac nid oedd ystâd ein llogellau ni yn caniatáu i ni logi ceir. Nid oedd dim i'w wneud ond ei throedio hi; David Thomas gyda'i goesau hirion a'i gamrau breision, a minnau gyda'm coesau byrion a'm camrau bychain, yn prysuro adref â'n holl egni; gan yspio i bob siop y ceid golwg ar gloc, ac yn llawn pryder gyda golwg ar y posibilrwydd o fedru cyrraedd y pyrth cyn deg, ac felly osgoi aeliau gwgus Dr. Halley, fyddai yn ein haros, os methem. Yr oedd yn y pulpudau Ymneilltuol y pryd hwnnw bregethwyr enwog megis Dr.