Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/34

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Fletcher, Dr. Bennett, Dr. Leifchild, Dr. Vaughan, Dr. Reed, Mr. Burnet, Mr. Blackburn, ac ereill; a Mr. Binney, yn arbennig, ac yr oeddwn wedi eu clywed i gyd; ond, fel rheol, byddai Mr. Thomas a minnau, am y ddwy flynedd gyntaf o'n bywyd Athrofaol, cyn i gyhoeddiadau Sabothol dorri ar ein traws, yn myned i'r capelau Cymraeg yn amlach nag i un arall, oblegid i ni, yr oedd y weinidogaeth Seisnig yn cael ei theimlo yn oer a ffurfiol, o'i chydmaru â hyawdledd gwresog ein cyd-wladwyr. Yn y dyddiau hynny, hefyd, llenwid pulpud Jewin Crescent gan rai o brif bregethwyr y Dywysogaeth,—John Elias, Ebenezer Richard (fy nhad), Henry Rees, ac ereill, y rhai a dybiwn i, y pryd hwnnw, ac a dybiaf eto, yn feistriaid digymar hyawdledd cysegredig."

Rhoddasom y desgrifiad hwn gan Mr. Richard ei hun o'i fywyd yn Highbury, er dangos, unwaith eto, mor ddofn oedd yr argraff a wnaed ar ei feddwl gan yr hen bregethwyr Cymreig, yr hyn a rydd gyfrif am y teimladau cynnes a goleddai bob amser tuag at bopeth Cymreig, ac am y digllonedd cyfiawn a'i meddiannai pan wneid ymosodiad annheg ar gymeriad ei genedl.

Yr oedd Proffeswr Godwin a Dr. Stoughton hefyd yn gyd-efrydwyr â Mr. Richard, ac y mae yr olaf yn tystio ei fod ef a David Thomas yn ddynion o alluoedd rhagorol, yn efrydwyr diwyd, ac ymroddedig i'r gwaith y galwyd hwynt iddo. Yr oedd eu cyfeillgarwch yn gyfryw, fel y gelwid hwynt yn Dafydd a Jonathan.