Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/35

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Dywed y Parch. D. Rowlands, M.A., yn y Traethodydd am 1888, t.d. 448, ar dystiolaeth y Parch. J. Jones, Ceinewydd, yr arferai Mr. Richard bregethu yng nghapelau y Methodistiaid pan ddeuai i'r wlad ar y gwyliau, a'r un modd wedi iddo ymsefydlu yn weinidog yn Llundain; ei fod wedi pregethu mewn Cymdeithasfa yn Nhwrgwyn yn 1835, am ddeg o'r gloch yn Saesneg, a Mr. Evans, Llwynfortun, o'i flaen yn Gymraeg, a Mr. Henry Rees ar ei ol. Dywedir ei fod yn pregethu mewn capel yn Sir Aberteifi ar un o'i ymweliadau, a bod hen flaenor, wrth sylwi ei fod yn 'troi ei wallt," wedi myned ato pan ydoedd ar esgyn i'r pulpud, ac wedi tynnu ei law hyd ei ben dros ei dalcen, a dweud, "Fy machgen anwyl, bydd weddus yn y pulpud!"

Ar ol pedair blynedd o addysg athrofaol mewn Coleg Anibynnol, "yr oedd yn naturiol iddo gymeryd yn garedig at y lle," ac mor naturiol wedi hynny iddo ymsefydlu fel gweinidog ymysg y bobl a osodent gymaint gwerth ar ei lafur.