Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/36

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

PENNOD III

Mr. Richard yn weinidog capel Marlborough—Ei lafur gweinidogaethol—Ei gariad at Gymru—Ei ddarlith yn ei hamddiffyn yn erbyn cam—gyhuddiadau y dirprwywyr ar Addysg.


(1835) Bu Mr. Richard gartref yn Nhregaron yn glaf, yng Ngwanwyn 1835, am rai misoedd, ond yn Hydref yr un flwyddyn penodwyd ef yn weinidog Capel Marlborough yn Old Kent Road, Llundain. "Gweinyddwyd ar achlysur y penodiad gan y Parch. John Burnet, Dr. Henderson, Mr. Binney ac ereill." Yr oedd ei dad, ei fam, a'i frawd, yn bresennol ar yr achlysur, ac y mae ei dad yn rhoi y desgrifiad byw canlynol o'r amgylchiad mewn llythyr a ysgrifennodd at Mr. a Mrs. Jones, Llanbedr, Rhagfyr 11, 1835,—

"Y Saboth diweddaf ydoedd Sul Cymundeb cyntaf ein hanwyl Henry ar ôl ei urddiad; aeth ei fam a'i frawd a minnau i'w gapel i fod yn bresennol ar yr achlysur difrifol. Ond beth fydd eich syndod pan ddeallwch i'ch hen gyfaill, E. Richard o Dregaron, sefyll i fyny a phregethu pregeth Saesneg i gynulleidfa gyfrifol iawn yn y brif ddinas. Mi wn y chwardd Mrs. Jones