Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/37

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

yn iach am ben hyn, ac y dywed ond odid, — Yr hen ŵr gwirion, druan, y mae ei benwendid (dotage) yn dyfod arno; y mae yn dechreu myned yn hen.' Ar ôl y bregeth, cawsom y mawr hyfrydwch o eistedd i lawr wrth Fwrdd yr Arglwydd, a'n hanwyl Henry yn gweinyddu. Yr oedd bron yn ormod i'n teimladau ddal, ac mewn gwirionedd, yr oedd fel rhyw nefoedd fechan i ni ar y lawr."

Cyn hir wedi hyn, dechreuodd y Parch. Ebenezer Richard ymglafychu, a bu farw ym mis Mawrth, 1837; er dirfawr dristwch i'w fab tyner—galon, yr hwn a'i carai ac a'i hedmygai mor fawr, a cholled anhraethol i Gymru.

Pan gymerodd Mr. Richard ofal yr eglwys yn Old Kent Road, nid oedd ei ragolygon yn addawol iawn. Er fod ei gynulleidfa yn fawr, nid oedd yr eglwys ond bechan mewn rhif, a'i haelodau heb fod yn rhy unedig ychwaith, fel yr oedd yn gofyn doethineb mawr ar ran gŵr ieuanc 23ain oed i gyflawni y gwaith pwysig y galwyd ef iddo. Nid rhyfedd oedd i'w dad ei gynghori i gofio yr hen ddihareb Gymreig —

"Gwel a chêl a chlyw,
A chei heddwch yn dy fyw,"

cyngor y byddai yn dda i lawer gweinidog, hen ac ieuanc, ei gymeryd y dyddiau hyn. Arbedid felly lawer o anghysur.

O dan ofal doeth Mr. Richard, cynyddodd