Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/302

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

debyg, am y rheswm ei fod yn ddyn o ddifrif. Sicr yw, nad oedd Mr. Richard yn cloffi rhwng dau feddwl. . . Traddodai ei areithiau gydag eglurder a byrder canmoladwy iawn; ac ni fyddai byth ym methu argraffu ar feddyliau ei wrandawyr ei fod, mewn gwirionedd, o ddifrif yn ei amcan. Dywedai swyddog Aifftaidd, yr hwn oedd yn digwydd bod yn Oriel y Tŷ, yn ystod y ddadl ar yr Aifft, ar achlysur tan-beleniad Alexandria, er ei fod ef yn gryf o blaid y peth, fod araeth Mr. Richard wedi cynhyrchu effaith ddwys iawn ar ei feddwl, oherwydd y nerth a'r difrifwch gyda pha un y traddodwyd hi."

"Nid oedd y diweddar Mr. Richard," ebe y Leeds Mercury, "wedi cymeryd rhan arbennig mewu materion cyhoeddus, ac ni siaradai ond yn anfynych, ond yr oedd ganddo ddylanwad mawr yng Nghyngorau y dosbarth Radicalaidd o'r blaid Ryddfrydig, ac yr oedd llawer o'r aelodau ieuengaf yn ddyledus am eu casineb at ryfel a'r diplomyddiaeth ansefydlog sydd yn arwain i ryfel, i'w ddysgeidiaeth anuniongyrchol ef."

"Nid oedd," meddai y South Wales Daily News, Gymro mwy nodweddiadol yn bod. Yr oedd ei enw yn air teuluaidd. Carai ei bobl, a charent hwythau yntau. Yr oedd yn Wleidyddwr doeth, ac yn siaradwr da. Parotoai ei areithiau yn ofalus"

"Cafodd y pleser," medd y Pall Mall Gazette, "o weled y pwnc o gyflafareddiad rhwng teyrnasoedd, pwnc yr oedd efe yn ben-campwr arno yn Nhý y Cyffredin, wedi ennill sylw y byd, a hynny oherwydd ei lafur egniol ef."

"Mae marwolaeth Mr. Richard," medd y Birmingham Post, "yn symud o'n mysg un sydd yn cynrychioli ysgol o wladweinwyr sydd wedi gwneud gwasanaeth pwysig i'r wlad, trwy roddi pwys arbennig a pharhaus i egwyddorion mawrion yn ein gweinyddiaeth ymarferol.