Mae'n dda fod dynion i'w cael sydd yn gwrthod cydnabod dylanwad ansefydlog cyfleustra, ac yn dal mai iawnder pur ydyw unig sail deddfwriaeth. Y cyfryw un oedd Mr. Richard."
"Yr oedd yn ennill mawr," ebe Echo Llundain, "i'r Gymdeithas Heddwch gael y fath un a Mr. Richard i ddadleu ei hachos, oblegid er ei fod yn dal y syniad o anghyfreithlondeb rhyfel o dan bob amgylchiad, fe ddefnyddiodd foddion ymarferol; ac yr oedd bob amser yn barod i gyfarfod amddiffynwyr gwladweiniad tramor anturiog ar eu tir eu hunain. . . . Mae wedi troi allan yn fynych, yn y diwedd, mai amddiffynwyr Hedd wch oedd yn eu lle. Pan y mae y nwydau wedi eu cyffroi, mae cydwybod dyn yn aml yn beth sydd ar y ffordd. Bu Mr. Richard yn gydwybod i'r wlad ar fwy nag un achlysur"
Do, ac y mae bod gwlad wedi colli ei chyd- wybod, fel y mae lle i ofni ei bod, i raddau pell, yn y blynyddau diweddaf hyn, yn argoeli yn ddrwg am ei llwyddiant yn y dyfodol.
Pasiodd Pwyllgor y Gymdeithas Heddwch benderfyniad, yn cydnabod ei wasanaeth dihafal i achos Tangnefedd ar y ddaear, a dywedai fod y Gymdeithas yn ddyledus iddo am yr hyn ydoedd y pryd hwnnw; ac y mae yr Herald of Peace, am fis Medi, 1888, yn dweud mai y peth diweddaf a wnaeth Mr. Richard, ar ol ei ymweliad olaf a Swyddfa'r Gymdeithas, oedd myned at ei gyfreithwyr yn Finsbury Circus, i wneud ychwanegiad at ci Lythyr-Cymun, yn rhoddi