Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/304

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

200p. at y Gymdeithas Heddwch, a 100p, i bob un o Golegau Cymru.

Pasiwyd penderfyniadau hefyd gan Gymdeithasau Heddwch yn y wlad hon a'r Cyfandir, yn datgan eu colled ym marwolaeth Mr. Richard, a'r un modd gan Gymdeithasfa y Methodistiaid Calfinaidd ym Mhwllheli, ar gynhygiad Dr. Owen Thomas, a chefnogiad Mr. Thomas Lewis, A.S. Dywedai yr olaf fod Mr. Richard wedi ennill dylanwad llywodraethol yn y Senedd, a'i fod yn cael ei ystyried yno yn awdurdod ar bob mater yn dwyn perthynas â Chymru, a bod ei ym ddygiad yn Nhŷ y Cyffredin bob amser yn uniawn ac anrhydeddus, yn gystal at gyfeillion, ag at elynion. Yn y llythyr a ddanfonwyd oddiwrth gyfeillion Heddwch yn yr Unol Daleithiau gyda'u penderfyniad o gydymdeimlad â Mrs. Richard, dywed yr Ysgrifennydd, y Parch. Rowland B. Howard, ymysg geiriau tyner ereill,—

"Mae Lloegr yn ymddangos yn llawer llai atyniadol, a'r cefnfor yn llawer lletach er pan y mae fy nghyfaill anwyl, fy mrawd a'm gohebydd, wedi ehedeg ymaith. Ei weled a'i glywed ef oedd un o'r pethau yr oeddwn yn edrych ymlaen ato yn Paris yr haf nesaf."

Gallem ddwyn llawer o dystiolaethau ereill oddiwrth wŷr enwog, megys Arglwydd Granville, Arglwydd Randolph Churchill, Arglwydd Derby,