Arglwydd Rendel, A.S., Thomas Ellis, A.S., a Mr. Lewis Morris, ac ereill, ac nid yw yr oll ond yr hyn a gwbl haeddai ein cydwladwr enwog, Mr. Henry Richard.
Yn fuan ar ol ei farwolaeth, gwnaed symudiad i gael Cofadail teilwng iddo ar ei fedd ym mynwent Abney Park, a chariwyd y peth i weithrediad, a chaed un brydferth dros ben. Ar un ochr y mae y geiriau canlynol,—
"Wedi ei godi trwy danysgrifiadau cyhoeddus, er cof am fywyd a dreuliwyd mewn ymdrechion diwyd a hunanymwadol i hyrwyddo egwyddorion Heddwch a Rhyddid Crefyddol, ac i ddyrchafu sefyllfa addysgol, foesol a pholiticaidd y bobl, ac yn arbennig trigolion y Dywysogaeth, y rhai a garai mor fawr. Gan fod yn ffyddlon i'w argyhoeddiadau, ac yn ddewr yn eu hamddiffyn, trwy ei gysondeb a'i hynawsedd, fe enillodd barch ei wrthwynebwyr yn gystal a serch a hoffter ei gyfeillion, y rhai sydd yn mawr gofleidio coffadwriaeth ei gymeriad Cristionogol uchel a'i wladgarwch goleuedig."
Ar du arall y gof-golofn y mae yr adnod
ganlynol,— "Gwyn eu byd y tangnefeddwyr, canys hwy a elwir yn blant i Dduw."— Mat. x. 5.
A’r darn adnod ganlynol yng Nghymraeg,
"Canys yr oedd yn fawr gan ei genedl, ac yn gymeradwy ym mysg lluaws ei frodyr, yn ceisio daioni i'w bobl, ac yn dywedyd am heddwch i'w hoil hiliogaeth." — Esther x. 3.