Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/306

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

(1889) Dadorchuddiwyd y Gofadail ar y I5fed o fis Tachwedd. Cafwyd anerchiadau gan Dr. Owen Thomas, Lerpwl, yr hwn, meddai, a'i hadwaenai am 60 mlynedd, a'r pregethwyr enwog yr hanasai o honynt. Clywsai ef hefyd yn pregethu pan oedd yn weinidog ieuanc yn Llundain. Nid oedd neb cyffelyb iddo am amddiffyn iawnderau y Cymry. Traddodwyd annerchiad hefyd gan Mr. Alfred Illingworth, A.S., ar ran y Gymdeithas Heddwch. Nid ennill buddugolìaethau, meddai, ar faes y gwaed ydoedd yr achos fod y Gofadail wedi ei chodi. Yr oedd mwy na digon o'r cyfryw gennym wedi eu codi eisoes; ond Cofadail i Arwr Heddwch oedd hon. Adwaenai Mr. Richard er's deng mlynedd a'r hugain, . . . a chredai na chafodd neb sylweddoli cynifer o'i amcanion ag a sylweddolodd efe. Credodd yn ei Feibl, ymgysylltodd â rhai o wŷr goreu y deyrnas,—Mri. Cobden, Bright, Sturge, ac ereill—a gwnaeth gynnydd dirfawr yn yr achos ag oedd mor agos at ei galon.

(1893) Mynnodd y Cymry hefyd godi Cof-golofn i Mr. Richard yn ei dref enedigol, Tregaron. Penodwyd pwyllgor i gario yr amcan allan ar ba un yr oedd Arglwydd Aberdare yn Llywydd. Ymysg yr islywyddion yr oedd enwau Mr. Gladstone, aelodau Seneddol ereill, gweinidogion o bob enwad, a llu o wŷr urddasol ereill. Yr