ysgrifenyddion oeddent Mri. R. L. Davies, a'r Parch. T. Levi. Dadorchuddiwyd y golofn ar y 18fed o Awst, 1893, yr hon oedd wedi ei gwneuthur gan Mr. Albert Toft, o Chelsea. Y prif siaradwr ar yr achlysur oedd y Gwir Anrhydeddus Syr George Osborne Morgan, Barwnig, A.S. Dywedai ei fod yn cofio yn dda glywed Mr. Richard yn siarad yn Lerpwl am y waith gyntaf, ym mhresenoldeb Syr William Harcourt a Mr. John Bright, ac yr oedd yn teimlo ar y pryd y fath drueni oedd, fod dyn mor ragorol heb gael sedd yn Nhŷ y Cyffredin. Wrth gyfeirio at ei amddiffyniad o'i gydwladwyr yng ngwyneb ymosodiadau y Dirprwywyr Addysg, dywedai ei fod wedi "malu a chwilfriwio" y Dirprwywyr y pryd hwnnw yn llwyr. Er ei fod yn addfwyn a thyner, gallai daro yn drwm iawn pan mynnai. Yr oedd ei ymosodiad ar y tirfeddianwyr fu yn gormesu ar eu tenantiaid yn Etholiad 1868, a'i effaith ar y tirfeddianwyr oedd yn y Tŷ ar y pryd, yn rhywbeth aruthrol. "Pan eisteddodd i lawr," ebe Syr George Osborne Morgan, "yr oedd dau beth yn amlwg, sef bod Cymru wedi cael un i'w chynrychioli, a bod Mr. Richard wedi gwneud ei yrfa Seneddol yn ddiogel."
Siaradwyd hefyd gan y Barnwr Bowen Rowlands; yr Uch-gadben Jones, A.S.; Mr. Joseph J. T