Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/308

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Alexander, Ysgrifennydd Cymdeithas y Gwrth- Opium, ar ran Cymdeithas Heddwch (gan fod Dr. Darby yr ysgrifennydd yn Chicago ar y pryd); Mr. Frank Edwards, A.S.; Mr. William Jones, Birmingham; Mr. Thomas Williams, U.H., Merthyr, un o hen gyfeillion mynwesol Mr. Richard, a Mr. D. Prosser, Sheerness (ar ran Cymry Llundain). Ysgrifennai y Daily Chronicle, mewn erthygl olygyddol, fel y canlyn ar yr achlysur,-

"Fel Ysgrifennydd y Gymdeithas Heddwch y cofir am Henry Richard yn fwyaf neilltuol gan yr oes bresennol; ond y mae araeth swynol Syr G. Osborne Morgan yn Nhregaron, yn rhoi darluniad byw o'r areithiwr hyawdl a ymladdodd mor ddewr yn y Senedd dros Gymru. Pan yn meddwl am yrfa a bywyd Henry Richard, 'y dyn na wnaeth elyn erioed,' yr oedd yn naturiol i'r siaradwr edrych ar y dyddiau hyn fel rhai dirywiol. Yr ydym wedi pellhau yn fawr heddyw oddiwrth fywyd tawel a difrifol Henry Richard, ac ni fyddai dim yn fwy buddiol i ni yn awr nag efrydu ei fywyd personnol a pholiticaidd ef.”

Fel yr ydym wedi ceisio desgrifio, y bu fyw, y bu farw, y claddwyd, ac yr anrhydeddwyd y gwladgarwr twymgalon, yr anghydffurfiwr pybyr, y carwr Addysg Rydd gwresog, a'r Apostol Heddwch selog

HENRY RICHARD