Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/311

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

PENNOD XX

Adolygiad ar brif waith bywyd Mr. Richard—Ei safle ar y pwnc o Heddwch—Sylwedd ei brif ysgrifeniadau arno.

Credwn nas gellir darllen y tudalennau blaenorol heb ganfod fod Mr. Richard wedi cyflawni gwaith amhrisiadwy o werthfawr ynglŷn â Chymru,—ei chrefydd, a'i haddysg.

Dymunol fuasai sefyll uwch ben y gwaith mawr hwn, a dangos mor ddyledus ydym fel cenedl iddo yn y cysylltiadau hyn; y modd y gorfododd y Saeson i edrych gyda mwy o barch arnom, ac y danghosodd fod y Wasg Seisnig yn berffaith anwybodus mewn perthynas i neilltuolion y Cymry fel cenedl. Danghosodd hefyd fod eu Hymneillduaeth wedi eu dyrchafu, ac mai nid y peth dirmygedig hwnnw ydoedd ag y mynnai rhai ei bod. Gwnaeth hyn ar yr

Esgynlawr, trwy y Wasg, ac yn y Senedd.[1]

  1. Er mwyn dangos fel y byddai Mr. Richard yn defnyddio pob cyfleustra i ddweud gair o blaid Cymru, a'i hiaith, cymerer yr hanesyn canlynol,—"Mewn araeth ym Mhorthmadoc, ar y 15fed o fis Medi, 1892, dygodd Mr. Gladstone, yng nghanol banllefau cymeradwyol, enw Mr. Henry Richard i mewn, a dywedai,—gaf fi adrodd hanesyn i chwi? Yr oedd y nifer fwyaf o honoch yn adnabod Mr. Henry Richard, A.S. Yr oed Mr. Richard yn Gymro twyıngalon, ac fel y mae nifer fwyaf o Gymry, yn un gwrol iawn hefyd. Un diwrnod, yn Nhy y Cyffredin—nis gallaf ddweud i chwi sut y bu, oblegid nid peth cyffredin ydyw i ni ddadleu cyfieithiadau o'r Ysgrythyr,—ond ar ryw achlysur, fe gododd dadl neu ymddiddan ar bwnc y cyfieithiad awdurdodedig o'r Ysgrythyr, a siaradodd Mr. Richard i'r perwyl a ganlyn,—Y mae gennych chwi, y Saeson, gyfieithiad ardderchog ac amhrisiadwy o'r Ysgrythyrau Santaidd, ac yr wyf yn gobeithio y gwerthfawrogwch ef, fel y dylech; ond mi hyderaf na ddigiwch wrthyf am ddweud fod gennym ni, y Cymry, gyfieithiad llawer rhagorach. Y rheswm dros fod ein cyfieithiad ni yn fwy rhagorol na'r eiddoch chwi yw, nid am fod eich cyfieithwyr chwi wedi esgeuluso gwneud eu dyledswydd, ond am fod ein hiaith ni yn tra rhagori ar yr eiddoch chwi.'"