Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/312

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Ac ar ol marwolaeth ei gyfaill, Edward Miall, nid fel amddiffynydd Ymneillduaeth y Cymry yn unig yr edrychid arno yn y Senedd, ond fel cynrychiolydd Ymneillduaeth y Deyrnas yn gyffredinol.

Nid myned i'r Senedd a wnaeth Mr. Richard er mwyn ei anrhydedd ei hun, ond i wasanaethu ei oes. Dywedir fod Arglwydd Beaconsfield, pan oedd yn Mr. Disraeli, wedi torri unwaith i ymddyddan â John Bright yn un o gynteddau Tŷ y Cyffredin, ac wedi dweud wrtho yn ddifrifol mewn adeg o siomiant. "Gwyddoch, nad oes gennych chwi na minuau un amcan arall wrth barhau yn aelodau o'r Tŷ hwn, ond ennill enwogrwydd." Pan ddywedodd Mr. Bright wrtho ei fod yn hyderu fod ganddo ef (Bright), amcan uwch, sef lles y deyrnas, troes Disraeli ar ei sawdl, gan godi ei ffroen. Nid oedd yn gallu deall dyn gonest fel John Bright. Yn ddiameu, ni fuasai, ychwaith, yn deall Henry Richard, Nid oes neb erioed wedi tybied am foment fod ganddo ef un amcan arall yn chwilio am sedd yn y Tŷ, ond cario allan yr egwyddorion mawrion a phwysig y credai mor ddiysgog ynddynt. Yr oedd swydd, a sefyllfa, a dyrchafiad personol, fel amcanion i ymgyrraedd atynt, yn bethau nad aethant ar draws ei feddwl erioed, er, mae yn ddiau, nad oedd yntau, fel pob dyn gwir