Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/313

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

fawr a gwir onest, heb fod yn eiddigeddus iawn dros ei enw da, ac yn meddu mesur o uchelgais.

Ond, er cymaint a wnaeth Mr. Richard o blaid Cymru, Addysg ac Anghydffurfiaeth, mae yn rhaid cydnabod mai amcan mawr ei fywyd oedd gwasanaethu achos Heddwch. Tystiolaeth Mr. Gladstone am dano yw, mai ei egwyddorion heddychol oedd y "rhai goreu a goleddai."

Dymunem, gan hynny, alw sylw arbennig at y rhan hon o'i waith, a hynny, nid yn unig am mai hwn oedd gwaith mawr ei fywyd, ond am ein bod yn credu nad ydyw ei lafur a'i ddysgeidiaeth yn yr achos hwn, wedi cael y sylw ag sydd yn deilwng o'i bwysigrwydd a'i ddylanwad yn y dyfodol ar y byd. Heblaw hynny, yr ydym yn ofni nad ydyw pawb, hyd yn oed o'i edmygwyr pennaf, wedi dirnad yn drwyadl safle Mr. Richard gyda golwg ar y pwnc hwn. Mae rhai o Gristionogion goreu y deyrnas, dynion a'i parchent ef yn fawr, ac a gyd-weithient âg ef ym mhob achos da arall, dynion a gredent nad oedd un dadleuydd cadarnach, tecach, a mwy sylweddol nag ef, pan yn trin achos Cymru, Ymneillduaeth, Addysg, a phynciau cyffelyb, yn tybied, ar yr un pryd, gyda golwg ar y pwnc o Heddwch, fod 'hynawsedd a thynerwch ei deimlad yn meistroli ei ddeall a'i reswm, ac, o ganlyniad, nad oedd yn ddiogel ei ddilyn ar y pwnc hwn. Yn awr, y mae o bwys i sylwi nad oedd un pwnc ag yr oedd Mr. Richard wedi ei astudio yn fwy trwyadl, wedi darllen mwy arno, yn teimlo yn fwy aiddgar drosto, ac yn fwy argyhoeddedig ei fod yn sefyll ar dir cadarn a diysgog Cristionogaeth, rheswm a synwyr cyffredin, mewn perthynas iddo, na'r pwnc hwn o Heddwch. Nis gallwn dafu mwy o sarhad ar