Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/314

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ei goffadwriaeth, na thrwy edmygu ei syniadau a'i lafur ym mhob cyfeiriad arall, a bod yn ddiystyr o'i argyhoeddiadau dyfnaf ar y pwnc hwn. Credwn mai dyma'r pwnc oedd nesaf at ei galon; a'r un y carasai iddo gael y lle amlycaf yn ei goffadwriaeth, a theimlwn, gan hynny, y dylem nodi yn lled fanwl ei olygiadau arno, gan hyderu y dygir lluaws ein darllenwyr i dalu sylw mwy arbennig i'w olygiadau neilltuol ef ar y pwnc pwysig hwn, er y gallant ymddangos i rai, fe allai, yn rhai eithafol.

Mae yn iawn i ni gydnabod, ar y dechreu, fod Mr. Richard yn un ag oedd yn dal fod rhyfel, o dan bob amgylchiad, yn groes i egwyddorion Cristionogaeth; yr un mor groes ag ydyw twyll, anonestrwydd, neu anwiredd. Nis gallai, mewn un modd, ddwyn ei feddwl i ddygymod a'r syniad fod dim yn cyfreithloni gwaith Cristion yn cymeryd arfau dinistr i'w ddwylaw, ac amcanu at fywyd ei gyd-ddyn. Yr oedd yn un ag y mae y byd yn arfer estyn bys ato mewn gwawd, gan ei alw yn Peace at any price man. Byddai, er hynny, yn anghymeradwyo yr enw hwn ar y blaid y perthynai iddo, ac ar un am gylchiad troes y gwawd yn erbyn ei wrthwynebwyr yn Nhŷ y Cyffredin, trwy olrhain tarddiad yr enw at y Duc Wellington! Dywedodd ar yr amgylchiad hwnnw, ei fod yn herio yr holl fainc esgobol i brofi fod rhyfel yn unol âg egwyddorion Cristionogaeth. Credai mai dyma'r tir cadarnaf i sefyll arno wrth ddadleu yn erbyn rhyfel. A mynych y cyfeiriai at gyngor Mr. Cobden iddo, at yr hwn y cyfeiriwyd eisoes. Ond gwelsom nad oedd Mr. Richard, er hynny, yn cadw at y cyngor hwn bob amser. Yn yr Herald of Peace, yn fynych,