Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/315

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ac yn y Senedd, bob amser, arferai gymeryd amddiffynwyr rhyfel ar eu tir eu hunain, gan ddangos anghyfiawnder, ffolineb, barbareidd-dra, creulondeb, a difudd-der y rhyfeloedd arbennig a fyddent o dan sylw.

Am Mr. Cobden, nid oedd efe yn condemnio rhyfel ar bob amgylchiad. Ac er fod John Bright yn perthyn i gorff y Crynwyr, y rhai sydd yn credu fod pob rhyfel yn groes i egwyddorion Crefydd Crist, nid ydym yn siwr y buasai yntau yn gweithredu yn ol yr egwyddor honno bob amser. Dywedodd mewn cyfarfod cyhoeddus yn Westminster, ar yr 22ain o Chwefrol, 1887, y byddai yn ddigon buan gofyn iddo ef a oedd yn myned mor bell ag i gondemnio pob rhyfel pan ddeuai y byd i gondemnio rhyfeloedd anghyfiawn a di-raid; ac wrth ysgrifennu at gyfaill yn Manchester unwaith, dywedai,—"Gall fod yn wir nas gellid bob amser osgoi rhyfel, ac mewn rhai amgylchiadau, gallai fod yn gyfreithlon." Ac mewn llythyr i'r Spectator ar y 25ain o Fedi, 1882, dywedai,—"Nid wyf erioed wedi gwrthwynebu unrhyw ryfel neilltuol ar y tir fod rhyfel, o dan bob amgylchiad, yn anghyfreithlawn. . . . . Nid wyf yn awyddus i ddadleu y cwestiwn dansoddol hwn."

Ond am Mr. Richard, fe siaradai bob amser yn glir a difloesgni ar y mater. Yr oedd ei gredo ar y pwnc mor eithafol a'r Crynwr mwyaf aiddgar. Mor bell yn ol a'r flwyddyn 1845— tair blynedd cyn iddo fod yn Ysgrifennydd y Gymdeithas Heddwch—traddododd araeth yn yr Hall of Commerce ar "Ryfel," a thriniodd y cwestiwn o gyfreithlondeb, neu yn hytrach, anghyfreithlondeb rhyfel amddiffynnol, a datganodd ei syniadau arno. Cyn i un o'n