Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/316

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

darllenwyr ddechreu tosturio wrth ordynerwch neu anwroldeb Mr. Richard, cynghorem ef i ddarllen ei sylwadau ar y cwestiwn yn yr araeth honno.

Nid yw pawb yn deall y tir y saif y Crynwyr, ac y safai Mr. Richard amno yn y mater hwn. Camddeall y tir hwn sydd yn peri fod cynifer yn codi y gwrthddadleuon a wnant yn erbyn eu daliadau. Nid yw y Crynwyr, ac nid oedd Mr. Richard mor ffol a honni, na fyddai cario allan eu hegwyddorion yn peri iddynt ddioddef neu osod eu meddiannau a'u bywyd mewn perygl mewn amgylchiadau neilltuol. Dadleuai yr addefai pawb fod gonestrwydd a geirwiredd yn ddyledswyddau moesol rhwymedig ar bawb, ond byddai yn hawdd tybied amgylchiadau y gellid gosod dyn ynddynt ag y byddai ar ei golled, os nad yn peryglu ei fywyd wrth lynnu yn ddiysgog wrth y dyledswyddau hynny. Yr un modd gyda golwg ar beidio ymladd; er y gallai fod yn anhawdd iawn, ac yn beryglus i fywyd dyn i gario hynny allan ar amgylchiadau neilltuol, eto, gan fod ymladd yn groes i ddysgeidiaeth y Testament Newydd, rhaid oedd ufuddhau i Grist, bydded y canlyniadau yr hyn y bont. Ond tra yn dal hyn, yr oedd ganddo gymaint o ffydd yng Nghrist fel y credai fod yr egwyddorion Cristionogol hyn yn siwr o fod yn fwy diogel ac effeithiol i ddwyn dedwyddwch i'r byd, yn y pen draw, na'r egwyddorion cyferbyniol. Mae eu bod wedi eu gorchymyn gan Grist, a phrofiad dynion pan yn eu cario allan yn deg, yn profi hynny. Mae Mr. Richard, yn yr araeth y cyfeiriwyd ati, yn dangos fod y reddf sydd yn ein natur yn ein harwain i amddiffyn ein hunain pan ymosodir arnom, i fod o dan lywodraeth rheswm a