Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/317

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

chydwybod ; mai dyna sydd yn gwahaniaethu dyn oddiwrth yr anifail, fel y danghosir yn glir iawn gan Esgob Butler. Ac ym mhellach, fod rheswm a chydwybod drachefn i fod o dan ddeddf i Grist, gan fod yn rhaid "caethiwo pob meddwl i ufudd-dod Crist." Y cwestiwn, gan hynny, yw—A ydyw Cristionogaeth yn caniatau i ni i ddinistrio ein gilydd, hyd yn oed mewn rhyfeloedd hunan-amddiffynnol? Dadleua Mr. Richard ei bod yn dysgu yn gwbl groes i hynny, a'i bod yn bendant yn condemnio gweithrediad y nwydau sydd yu torri allan yn y cyfryw ryfeloedd. Ni thybiodd Crist na'i Apostolion erioed y buasai eu disgyblion yn euog o'r gweithredoedd creulon hynny yn erbyn bywydau dynion sydd yn cymeryd lle mewn rhyfeloedd ymosodol. Ond fe ddarfu iddynt ragweled, pan yr ymosodid arnynt ar gam, y gallent gael eu temtio i ddial, yn ol "greddi eu natur;" ac o ganlyniad, y maent yn gwahardd ac yn condemnio hyn gyda phwyslais a mynychder nas gellir ei gamgymeryd. "Nac ymddielwch, rai anwyl, ond rhoddwch le i ddigofaint, canys y mae yn ysgrifenedig, I mi y mae dial, mi a dalaf, medd yr Arglwydd." "Na wrthwynebwch ddrwg." "Gwelwch na thalo neb ddrwg am ddrwg i neb, eithr yn wastadol dilynwch yr hy sydd dda tuag at eich gilydd, a thuag at bawb." "Os a chwi yn gwneuthur yn dda, ac yn dioddef, y byddwch dda eich amynedd, hyn sydd rasol ger bron Duw." O ran hynny, byddai difynnu yr oll a ddywedir ar y pen hwn yn ddim amgen na difynnu cyfran helaeth o'r Testament Newydd.

Ond a ydyw dyn felly i beidio amddiffyn ei hun? Na; y mae ganddo luaws o ffyrdd heb ddial a thywallt gwaed, defnyddio cleddyfau a