Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/318

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

bidogau. Y llwybr Cristionogol ydyw gorchfygu drygioni trwy ddaioni,—"Os dy elyn a newyna, portha ef." Pe byddai ein ffydd yn gryfach, gallem anturio i fysg ein gelynion gyda mwy o ddiogelwch na phe byddai gennym arfwisg o ddur.

Ond y mae y gwrthwynebydd yn dweud mai ofer siarad fel hyn, ac yn myned i ddychymygu amgylchiad neilltuol, megys pan ymosodid arnom gan leidr? Tra nad oedd Mr. Richard am osgoi anhawster fel hwn, cymer achlysur i nodi mor beryglus i achos moesoldeb ydyw bod yn rhy barod bob amser i "ddychymygu amgylchiadau" fel hyn. Yr ydys, trwy hynny, yn apelio, nid at reswm na Christionogaeth, ond at deimladau ofnus dyn. Hawdd fyddai dychmygu angylchiadau yn y rhai y byddai yn anhawdd cadw at y gwirionedd a bod yn onest; ond nid fel hyn yr ydys yn arfer dysgu y dyledswyddau hynny. Ond i gyfarfod â'r amgylchiad o ymosodiad personol arnom, dadleuai Mr. Richard nad oedd gennym un hawl i wneud ymosodiad dialgar yn ol. Gallem arfer moddion moesol, ac apelio at reswm a chydwybod yr ymnosodydd. Gwyddai y byddai rhai yn gwawdio y fath syniad, ond fe ddarfu i Barclay a Leonard Fell, ac ereill, wneud hynny, a buont yn llwyddiannus. Neu, fe allem ffoi, os byddai modd. Beth! bod mor anwrol a ffoi o herwydd perygl? Nage, ebe Mr. Richard, ond ffoi rhag y demtasiwn i gyflawni pechod. Dyma'r dewrder pennaf. Neu, hwyrach, y gellid arfer nerth neu allu corfforol i wrthweithio yr ymosodiad, ond peidio gwneud hynny mor bell ag i gymeryd bywyd. Gan Dduw yn unig yr oedd y cyfryw hawl.

Ond beth os byddai y cwbl yn aneffeithiol, ac