Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/319

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

nad oedd dim i'w wneud ond lladd, neu i mi gael fy lladd? Beth ydwyf i wneud y pryd hwnnw? "Gwneud," atebai Mr. Richard, "marw fel Cristion cywir, marw yn hytrach na chyflawni trosedd yn erbyn deddf Duw." Addefai pawb y byddai yn ddyledswydd arnom, yn hytrach na gwadu enw Crist, i farw fel y merthyron gynt. Pam na ddylid edrych ar dyn a ddewisai farw, yn hytrach na throseddu un o reolau moesol dysgeidiaeth Crist yn y Testament Newydd, yn ferthyr mor wirioneddol a'r dyn a rydd ei fywyd i lawr dros un o'i athrawiaethau?"[1]

Ond dywedir weithiau nad yw y ddysgeidiaeth hon yn y Testament Newydd, ond yn gymhwysiadol at bersonau unigol, ac nid at lywodraethau a theyrnasoedd. Ond gofynnai Mr. Richard a ydyw y Testament Newydd mewn un man yn dweud hynny; sef bod gweithredoedd a waherddir i Gristion unigol yn gyfreithlon i lywodraeth Gristionogol? Ni

fyddai hyn ond dymchwelyd holl seiliau moesoldeb.

  1. Yr ymdriniaeth fwyaf effeithiol ac argyhoeddiadol o eiddo Mr. Richard ar y wedd hon ar y cwestiwn o hunanamddiffyniad, ydyw yr un a ymddanghosodd mewn dwy Erthygl yn yr Herald of Peace am 1858, t d. 78 a 90. Ysgrifennodd awdwr galluog The Eclipse of Faith, sef Henry Rogers, lyfr o dan yr enw Selections from the Correspondence of R. E. H. Greyson, yn yr hwn yr ymdriniai â gwahanol faterion. Yn eu mysg y mae yn trin y cwestiwn o hunanamddiffyniad yn ol egwyddorion y Crynwyr, ac yn ceisio profi geudeb yr egwyddorion hynny. Yr oedd enwogrwydd yr awdur yn galw am atebiad cyflawn a manwl, ac y mae Mr. Richard yn y ddwy erthygl a nodwyd, yn ein tyb ni, yn codymu y Prif Athraw gyda deheurwydd digyffelyb. Y mae yr erthyglau yn gynllun o ymresymiad teg, manwl, a chyflawn. Mae y diweddar Barch. G. Parry, D.D., yn Y Traethodyld am 1871, yr ail godi dadl Greyson o blaid rhyfel, ond y mae yn amlwg nad oedd wedi darllen atebiad Mr. Richard.