Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/320

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Ond pe addefid fod rhyfel amddiffynnol yn gyfreithlawn; gofynna Mr. Richard, pa le y gorwedd y llinnell rhwng rhyfel gwir amddiffynnol, ac un ymosodol? Os hunan-amddiffyniad yn unig sydd yn gyfreithlon, y foment yr eir dros ben hynny, ac y dechreuir ymosod ar y gelyn, yr ydys yn myned i dir anghyfreithlon. Y gwir yw, na fu erioed ryfel a ystyrid yn un amddiffynnol yn unig ar y dechreu, na therfynodd yn un ymosodol. Mae hanes holl ryfeloedd y byd yn dangos hynny, yr hyn sydd ynddo ei hun yn profi geudeb yr ymresymiad o blaid yr hyn a elwir yn rhyfel hunan-amddiffynnol yn unig, tra yn condemnio rhyfel ym- osodol.

Dyna oedd dysgeidiaeth Mr. Richard yn 1845, a glynnodd wrth yr un ddysgeidiaeth hyd ei fedd. Carem i'r rhai fydd yn edrych arni yn eithafol, ddarllen y gwahanol erthyglau a ysgrifennodd Mr. Richard yn yr Herald of Peace ar y wedd hon ar y cwestiwn. Y mae yn ei drin mewn atebiad i luaws o wŷr dysgedig sydd yn dwyn rhesymau tebyg i'r rhai a nodwyd uchod, ac yn eu hateb. Pa bryd bynnag y teimla rhyw un awydd i daflu y Bregeth ar y Mynydd, a dysgeidiaeth yr Epistolau o'r neilltu, gan honni nad oeddent i gael eu hesbonio yn llythyrenol, troai Mr. Richard arnynt bob amser, gan ddweud mai nid ar y llythyren yr oedd efe yn dibynnu, ond ar yr ysbryd cyffredinol oedd yn rhedeg trwyddynt oll. Er na olygid i ni yn llythyrenol droi y rudd aswy pan darewid ni ar yr un dde, a oeddem, gan hynny, i fyned i'r eithafion cyferbyniol, a thrywanu ein gelyn, a'i ladd, a llosgi ei dai ac yspeilio ei eiddo? Ac os nad oedd gwadiad yr esboniad llythyrenol yn