Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/321

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

cyfreithloni y pethau hyn, nid oedd yn cyfreithloni rhyfel.

Pwysai Mr. Richard yn fynych ar y ffaith fod y Cristionogion, ym mlynyddoedd boreuaf Cristionogaeth, yn ymryddhau oddiwrth y fyddin Rufeinig; a bod y paganiaid hynny a droent at Gristionogaeth trwy offerynoliaeth y Cenhadon, bob amser, megys o honynt eu hunain, yn teimlo fod rhyw anghydnawsedd rhwng y grefydd newydd a'u rhyfeloedd, a'i bod yn rhwystr ar eu ffordd i fyned allan i ymladd yn erbyn llwythau gelynol.

Ond nid dyma'r unig dir, na'r un mwyaf cyffredin y safai Mr. Richard arno. Dadleuai fod rhyfel, nid yn unig yn groes i Gristionogaeth, ond yn un o olion barbariaeth, yn beth ynfyd, costus, creulon, ac anynol, a chredai fod yn llawn bryd dyfeisio moddion i derfynnu anghydfyddiaethau rhwng teyrnasoedd ag oeddent yn fwy cydnaws â thyfiant gwareiddiad a Christionogaeth na rhyfel. Yn wir, nid oes un wedd ar y cwestiwn nad yw wedi ei chymeryd i fyny yn ei wahanol ysgrifeniadau.[1]

Tuag at ddeall safle ymarferol Mr. Richard ar y pwnc o ryfel, dichon nad allwn wneud yn well

na rhoddi cynhwysiad papuryn a ddarllenwyd

  1. Credwn, pe cesglid at eu gilydd yr holl Erthyglau a Thraethodau a yegrifennodd Mr. Richard ar Ryfel, y byddent yn ystorfa o ffeithiau a rhesymau na fyddai yn bosibl cael eu gwell mewn un man. Nid ydym yn petruso dweud y cyfansoddent lenyddiaeth gryno a chyflawn ar yr holl gwestiwn. Draent yn gorwedd, gan mwyaf, yn yr Herald of Peace, cyhoeddiad misol a fu o dan ei olygiad, ac y bu yn ysgrifennu iddo am tua deugain mlynedd. Neu pe cesglid detholiad o'r ysgrifau hyn, yn un gyfrol, byddai yn gaffaeliad gwerthfawr i achos Heddwch, a byddai yn well coffadwriaeth am lafur ac ymchwiliad Mr. Richard i'r pwnc nag y gallai un colofn o farmor fod byth.