Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/322

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ganddo o flaen Cynhadleddau yn yr Hague, Cologne, Milan, Llundain a Lerpwl, rhwng y blynyddoedd 1875 ac 1887, ar "Resymoldeb Cyflafareddiad Ryng-wladwriaethol;" a Thraethawd a ysgrifennodd ar "Fuddugoliaeth raddol Cyfraith ar Nerth Anifeilaidd."[1] Gan y gellir edrych ar y Traethawd hwn fel math o sylfaen ar ba un y gellir adeiladu y pwnc o Gyflafareddiad arni, ni a gyfeiriwn ato gyntaf. Mae y Traethawd yn un galluog iawn ar y testyn, ac yn ffrwyth darlleniad helaeth ac ymchwiliad manwl. Gofynna a oedd rhywbeth ffol yn y dybiaeth y gall teyrnasoedd Ewrob ddod i gydnabod hawl cyfraith i benderfynnu ymrafaelion ac anghydfyddiaethau, yn lle nerth anifeilaidd? Credai fod y syniad hwn yn berffaith gyson â thuedd gynhyddol gwareiddiad.

Gwyddys, mai yr arferiad ar y dechreu oedd, i ddynion amddiffyn eu hunain a'u hawliau trwy nerth corfforol. Ac y mae yn syn mor hir y buwyd cyn diddymu yr arferiad hwn. Un o'i holion ydoedd y drefn o benderfynnu achos trwy ymladd. Yr oedd y drefn farbaraidd hon yn cymeryd y ffurf o brawf cyfreithiol. Dygid y ddwy blaid ymlaen, ac yna gorchymynai y Barnwr iddynt ei hymladd hi allan. Dewisid y maes; yn fynych byddai yn agos i Eglwys; elai y ddau i wasanaeth yr offeren yn gyntaf, a chyflawnid llawer o seremoniau gyda holl bwysigrwydd defodau llys barn. Caniateid i foneddwyr ymladd ar feirch, merched a chlerigwyr i ymladd trwy ddirprwywyr, ac yr oeddent

i ymladd hyd yr hwyr, neu nes i un gael ei

  1. The Gradual Triumph of Law over Brute Force, by Henry Richard, M.P., Third Edition, 1881.