Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/323

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

orchfygu. Am beth amser, ar ol y flwyddyn 1066, hon oedd yr unig drefn.

Wedi amser Harri yr ail, dygwyd y drefn o brawf trwy reithwyr i arferiad, os na fyddid yn dewis yn hytrach y prawf trwy ymladd. Parhaodd cyfraith y profi trwy ymladd hyd y flwyddyn 1818, a'r hyn a barodd y diddymiad oedd, fod dyn, yn y flwyddyn honno, wedi apelio am gael ymladd â'i wrthwynebwr. Diau fod pawb yn teimlo yn awr fod y dull hwn o brofi achos mewn llys yn un barbaraidd; ond y mae Mr. Richard yn gwasgu tri sylw adref oddiwrth yr arferiad. (1.) Nas gellid dweud dim yn erbyn yr arferiad nad ellir ei ddweud hefyd yn erbyn rhyfel. (2.) Bod dynion wedi ymlynnu wrth yr arferiad am fynyddoedd lawer gyda'r un ystyfnigrwydd ag y maent yn awr yn glynnu wrth ryfel. (3.) Ac eto, er hyn oll, fod yr arferiad o'r diwedd wedi gorfod cilio o flaen gwareiddiad a synwyr cyffredin.

Meddylier eto am arferiad neu sefydliad arall. Am ganrifoedd lawer yr oeddid yn caniatau rhyfeloedd rhwng pleidiau anghyoedd-pleidiau yn cydnabod yr un gyfraith gyffredinol—fel yn meddu yr un hawliau a rhyfeloedd rhwng teyrnasoedd yn awr. Os gallai unrhyw ddyn a gydnabyddid fel math o arweinydd ar ddynion, eu casglu ynghyd a'u harwain i ddial rhyw gam ar ei gymydog mewn cyffelyb amgylchiadau, cydnabyddid ei hawl i wneud hynny. Ond yr oedd yn rhaid iddo fod yn fath o bendefig. Yr oedd cydnabod a chaeth-ddeiliaid y penaeth o dan orfod i ymladd drosto. Hawdd deall fel yr oedd yr arferiad hwn yn darostwng pobl i sefyllfa farbaraidd, fel y dengys Robertson, yr hanesydd. Yr oedd yr eithafion mewn