Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/324

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

creulondeb yr elai yr ymladdwyr hyn iddynt yn arswydus. Buwyd yn hir iawn cyn gallu darostwng yr arferiad barbaraidd hwn a'i ddwyn o dan ddylanwad cyfraith, er bod yr Eglwys a Chynghorau wedi siarad yn uchel yn ei erbyn. Cydsyniwyd i ddechreu, i beidio ymladd yn ystod gwyliau yr Eglwys a dyddiau arbennig ereill, a gelwid y dyspeidiau hyn yn Rhyfel-baid Duw (Truce of God). Mae Mr. Richard, wrth alw sylw at yr ymdrechion lawer a wnaed i ddiddymu yr arferiad, yn dweud fod pelydr o oleuni o'r diwedd wedi tywynu ar feddyliau y barwniaid eu hunain, a'u bod wedi cytuno i apelio yn eu cwerylon at ddyfarniad eu cyd-benaethiaid, a gwasga y ffaith adref gyda grym argyhoeddiadol, nad oedd dim yn gwahaniaethu y rhyfeloedd hyn, o ran ffolineb ac anghyfiawnder, oddiwrth ryfeloedd y dyddiau presennol rhwng teyrnasoedd â'u gilydd. Geilw Mr. Richard sylw eto yn y Traethawd dan sylw, fod yr holl wledydd mawrion sydd yn awr yn cyfansoddi Cyfandir Ewrob, ychydig o ganrifoedd yn ol, yn cael eu gwneud i fyny o daleithiau neu genhedloedd gwahanol, y rhai a dybient fod eu buddiannau yn amrywio; ac yr oeddent yn ymladd a'u gilydd fel y mae teyrnasoedd mawrion yn gwneud yn awr.

Yr oeddyn Lloegr unwaith, saith o deyrnasoedd gwahanol, o dan yr enw Heptarchy, ac yr oedd Gorllewinbarth yr Ynys yn cael ei rannu i bum teyrnas. Yr oedd y rhai hyn yn byw mewn anghydfod a rhyfel parhaus a'u gilydd. Pe dywedasai rhyw un y pryd hwnnw y buasai y Taleithiau hyn yn ymuno o dan yr un awdurdod llywodraethol, prin y credid ef. Ar ol trin y pwnc hwn gyda mesur helaeth o fanylder, mae