Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/325

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Mr. Richard yn gofyn, os ydyw gwareiddiad wedi diddymu rhyfeloedd taleithiol, pam nad all gwareiddiad uno y gwahanol deyrnasoedd yn y fath fodd ag i gael rhyw gyfraith neu ddealltwriaeth a fydd yn foddion i atal rhyfeloedd rhyngddynt? Credai fod yr anhawsterau ar y ffordd yn llawer llai na'r rhai sydd wedi eu gorchfygu eisoes trwy y moddion a enwyd. Nid yw y teimladau gelyniaethol rhwng cenhedloedd mor gryf ag oeddent rhwng y Celtiaid a'r Sacsoniaid yn y wlad hon, a'r cenhedloedd cyffelyb yn Ffrainc a Rwsia. Ac y mae moddion trafnidiaeth a chymdeithasiad rhyngddynt yn fwy helaeth yn y dyddiau hyn nag oeddent rhwng cenhedloedd cymharol agos y dyddiau gynt. Pam, gan hynny, yr edrychir ar y dynion sydd yn ceisio cario i'r dyfodol y ddeddf fawr a welsom mewn gweithrediad yn y gorffennol yn ynfydion ? Onid ein dyledswydd yw dwyn y ddeddf hon i weithredu mewn cylch eangach, sef rhwng teyrnasoedd a gwladwriaethau? Mae rhyw fath o gyfraith rhwng teyrnasoedd mawrion eisoes, ond y mae yn bennaf mewn cysylltiad â dygiad rhyfel ymlaen. Os gellir cytuno ar rai pwyntiau, pam nad ellir ar ereill, a thrwy hynny ddwyn y cenhedloedd o dan weithrediad deddf neu gyfraith, yn lle o dan lywodraeth nerth anifeilaidd yn unig? Ceisiwn ddangos yn y bennod nesaf fel y profai Mr. Richard fod hyn yn beth ymarferol.