Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/326

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

PENNOD XXI

Y dadleuon yn erbyn Cyflafareddiad—Yn beth mewn gweithrediad eisoes-Dros ddau cant o engreifftiau rhwng 1815 a 1901—Llwyddiant llafur Mr. Richard.

Yn 1887, fe gyhoeddodd Mr. Richard bamffled yn cynnwys papurau ar “Resymoldeb Cyflafar- eddiad Ryngwladwriaethol a'i gynnydd diwedd- ar," y rhai a ddarllenwyd mewn cynhadleddau o'r Gymdeithas er diwygio a chrynhoi ynghyd Gyfraith Cenhedloedd. Darllenwyd y papurau hyn yn yr Hague, Cologne, Milan, Lerpwl a Llundain. Cyfeiriwn, yn fyr, at eu cynhwysiad. Nid oes neb na addefa mai gwell-yn lle myned i ryfel-fyddai terfynnu cwerylon trwy foddion heddychol; ond pan eir at y gwaith codir pob math o wrthwynebiad. “Ryfeloedd sydd wedi bod bob amser, ac ofer ydyw siarad.” Dyna fel y siaredir; ac o ran hynny dyna fel y siaradwyd pan geisiwyd diddymu caethwas- iaeth, ac y dadleuid o blaid Rhyddid gwladol. A ydym mor ffol, fe ofynnir, a thybied y bydd dynion âg arfau yn eu dwylaw, a'u nwydau wedi eu cyffroi, yn barod i'w rhoi heibio, a phlygu i benderfyniad barnwyr ac i ddylanwad rheswm ? Addefai Mr. Richard nad oedd Cyf- lafareddiad yn feddyginiaeth anffaeledig rhag pob anghydfod; a gwyddai ei fod yn fwy cym- hwysiadol at rai anghydfyddiaethau nag ereill. Ond pan yr haerir, fel y gwneir yn fynych, nas