Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/327

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

gellir penderfynnu y cwestiwn hwn ac arall trwy gyflafareddiad, yr oedd efe, Mr. Richard, bob ainser yn dueddol i ofyn, Paham? Ac nid oedd byth yn cael atebiad boddhaol. Yr unig beth a wneid fyddai, son am ein hanrhydedd fel gwlad. Y peth pwysig, fel y dywedai y Proffeswr Sheldon Amos, oedd ceisio cynefino y bobl âg engreifftiau o'r peth wedi cael ei gario allan i weithrediad. Yr oedd pob engraifft yn gorfodi y gwrthddadleuwr i gilio cam yn ol. Beth pe buasai y lluaws cwestiynau dyrys ynglŷn â'r Alabama wedi terfynnu mewn rhyfel? Buasid yn dadleu fod cynifer o gwestiynau ereill wedi codi ynglŷn â'r prif gwestiwn, fel nas gallesid byth eu penderfynnu trwy gyflafareddiad. Y lluaws gwestiynau ereill sydd yn codi, a'r teimladau digofus sydd yn enynnu yn amser rhyfel sydd yn peri fod y cwestiwn mawr yn ymddangos yn un mor gymhlethedig, ac yn arwain i'r dybiaeth nad oes ond rhyfel a all ei ddadrys. Ein hamcan ni, medd Mr. Richard, ydyw ceisio rhwystro i'r teimladau digofus hyn godi rhwng teyrnasoedd a'u gilydd. "Pen y gynnen sydd megys ped agorid argae, am hynny, gad ymaith ymryson cyn ymyryd â hi."

Gofynnir weithiau, a ydys yn meddwl y gwnai concwerwyr mawr, y rhai sydd yn amcanu at orchfygu y byd ymostwng i osod eu hamcanion o flaen Cyflafareddwyr? Na fyddent, mae'n debyg, ond nid yw Cyfraith yn llai bendithiol am na wna y fath rai a Rob Roy, Robin Hood, a Jack Sheppard ymostwng iddi. Mynych y cyfeirir at Ryfel y Crimea. Dywedir wrthym fel dadl yn erbyn Cyflafareddiad, mai pethau ereill heblaw yr un peth a broffesir ydyw gwir achos y cweryl, megys uchelgais gwladweinwyr,