Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/328

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

eiddigedd rhwng cenhedloedd, ac awydd am ogoniant milwrol, fel yn y rhyfel hwnnw. Ond dyma un o'r dadleuon cryfaf o blaid cael rhyw lys o gyflafareddiad. Ni feiddiai un deyrnas ddwyn y pethau a enwyd o flaen y cyfryw lys. Myn rhai hefyd nas gellir penderfynnu cwestiwn ynglŷn âg anrhydedd neu urddas gwlad o flaen Cyflafareddwyr. Ond y gwir yw fod anrhydedd gwlad yn dal cysylltiad â phob anghydfod rhyngddi a gwlad arall. Pan gynhygiodd America gyntaf roddi cwestiwn yr Alabama i ddyfarniad Cyflafareddwyr, atebodd Arglwydd John Russell mewn modd trahaus mai Llywodraeth ei Mawrhydi oedd "unig amddiffynydd ei hanrhydedd." Ond fe wnaed hynny, wedi y cyfan, ac fe'i gwnaed yn effeithiol. Dywed Grotius y gellir yn deg edrych ar y blaid sydd yn gwrthod Cyflafareddiad fel yr un sydd ar fai.[1]

Ond pa ddadl bynnag a ddygir yn erbyn Cyflafareddiad, yr ydys yn rhy dueddol i anghofio hyn, mai yr hyn a gynhygir yw. Cyflafareddiad fel peth gwell na rhyfel. Wrth siarad am y naill, rhaid ei gyferbynnu â'r llall. A ydyw rhyfel yn fwy anrhydeddus, yn fwy urddasol, na Chyflafareddiad? Tybiwyd unwaith nas gellid penderfynnu cwestiwn o anrhydedd personol heb ymladd gornest; yr oedd yn rhaid golchi ymaith y llychwiniad ar y cymeriad trwy waed. Ond yn awr, mae'r ynfydrwydd hwn wedi ei ymlid ymaith o'r

  1. Tybed fod yr ymwybyddiaeth o hyn wrth wraidd gwrthodiad Gweinyddiaeth Prydain i gais y Transvaal cyn y rhyfel diweddaf i benderfynnu y cwestiwn trwy Gyflafareddiad? Pwy fedr ddesgrifio y trueni a arbedasid, pe derbyniasem y cynhygiad hwnnw?