Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/329

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

deyrnas hon. Pam y mae rhai dynion da eto yn dal yr un egwyddor yn ei pherthynas â theyrnasoedd? Beth ydyw y peth hwnnw a ystyrir yn fwy urddasol nag ymostwng i achos gael ei benderfynnu gan reswm a chyfiawnder? Pan ystyrrir beth ydyw rhyfel yn ei holl erchyllderau, yr ydym yn gorfod sefyll mewn syndod at y datroad ar egwyddorion moesol sydd wedi cymeryd lle trwy hir arferiad, pan y gellir edrych arno fel yn fwy anrhydeddus ac urddasol i Gristionogion nag ymostwng i ddyfarniad Deddf a Chyfiawnder.

Y mae Mr. Richard yn cyfarfod â dadl arall yn erbyn Cyflafareddiad, sef y gall y dyfarniad fod yn un anheg. Cyfeiria at rai achosion a benderfynwyd felly, a dengys na ddygwyd un gwrthwynebiad i'r un o honynt, a gofynna hyd yn oed pe byddent weithiau yn anghyfiawn, a ydyw rhyfel yn debyg o fod yn fwy cyfiawn yn ei derfyniad? Mae'r cleddyf yn dryllio pob iawnder ar unwaith.

Ond y mae Mr. Richard, er y cwbl, yn addef nad yw Cyflafareddiad yn drefn berffaith, ac y byddai cael llys a Barnwr cymwys i derfynnu cwerylon rhwng teyrnasoedd yn well. Bu efe, meddai, yn synnu lawer gwaith na fuasai Cyfreithwyr yn ymuno yn un corff i wrthwynebu rhyfel, oblegid yr oeddent yn cynrychioli egwyddor ag oedd mewn gwrthdarawiad hollol i bob rhyfel.

Ond rheswm mawr Mr. Richard, ac un ddylai fod yn derfyniad ar y ddadl ydyw un a wasgai adref mewn papur a ddarllenwyd ganddo yn Cologne yn 1881. Honna mai nid cwestiwn i'w ymresymu ydyw bellach. Mae Cyflafareddiad wedi ei roi mewn gweithrediad