Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/330

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

lawer gwaith, ac wedi profi yn effeithiol. Mae lluaws mawr o anghydfyddiaethau rhwng prif wledydd y byd wedi eu terfynnu yn heddychol trwy Gyflafareddiad; anghydfyddiaethau a allasent derfynnu mewn rhyfel, oni buasai hyn.

Nid ydyw Mr. Richard yn rhoi ond ychydig o engreifftiau; ond y mae o bwys i ni alw sylw at y ffaith fod eu nifer yn fawr iawn. Mae Dr. Darby, Ysgrifennydd presennol y Gymdeithas Heddwch, mewn traethodyn a gyhoeddodd yn ddiweddar, yn rhoi cyfrif manwl o'r holl achosion a derfynwyd fel hyn trwy Gyflafareddiad, a cheir fod eu nifer o'r flwyddyn 1815 hyd y flwyddyn 1901 yn fwy na dau gant. Mae tua 79 o honynt yn dwyn perthynas & Phrydain, 65 a'r Unol Daleithiau, 16 â Ffrainc, 10 â Germani, 12 âg Yspaen. Ac y mae eu rhif yn cynhyddu bob blwyddyn, fel y gwelir pan y dywedwn fod eu rhif yn 46 yn ystod y chwe blynedd olaf o'r ganrif ddiweddaf. Mae ceisio dadleu, gan hynny, fod yn amhosibl penderfynnu dadleuon rhwng teyrnasnedd heb fyned i ryfel yn groes i ffeithiau profedig, ac y mae y wlad a wrthyd y drefn hon, pa le bynnag y gellir ei rhoi mewn gweithrediad, fel y dywed Grotius, yn siwr o fod yn ymwybodol o wendid ei hachos. Cofier hefyd fod pob achos a benderfynnir fel hyn yn dod yn esiampl i'w ddilyn, yn dod yn gyn-engraifft (precedent); ac y mae tuedd mewn cyn-engreifftiau i ymsefydlu o'r diwedd yn ddeddfau. Nid yw rhyfel, fel y gwyddis, yn penderfynnu dim ond pwy sydd gryfaf.

"Nid oes dim cymhwyster," medd Mr. Richard, "yn y bidog i ganfod y gwirionedd, ni fedd pylor ddawn canfyddiad moesol, ac nid oes gan un o gyflegrau Krupp un math o gysylltiad arbennig â chyfiawnder".