Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/331

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

* * * * * * * * *

Wedi ysgrifennu fel hyn ar hanes a phrif waith bywyd Mr. Henry Richard, naturiol ydyw gofyn pa lwyddiant a ddilynodd, neu sydd yn debyg o ddilyn y fath ymdrechion a wnaed ganddo yn achos Heddwch? Beth fu y dylanwad ar y byd gwareiddiedig? Wrth edrych ar hanes Prydain am y ddwy flynedd ddiweddaf, a mwy, gellid meddwl na fu achos Heddwch erioed a chan lleied o arwyddion ffyniant i'w ganfod arno, ac nid oes un amheuaeth nad yw ysbryd milwrol wedi rhoi ysponc arswydus yn ddiweddar. Ond caniataer i ni, cyn terfynnu, alw sylw at rai ystyriaethau sydd, er hynny, yn ymddangos i ni yn deilwng o gael eu cadw mewn cof ynglŷn â'r cwestiwn hwn.

1. Yn oi tystiolaeth y Llyfr Dwyfol, y mae amser i ddod pan droir y cleddyfau yn sychau, a'r gwaewffyn yn bladuriau, "ac ni ddysgant ryfel mwyach.” Ac fel y dywed Dr. Chalmers, yn ei bregeth ar "Heddwch," nis gellir disgwyl i'r dyddiau hyn wawrio heb fod ymdrechion yn cael eu gwneud gan Gristionogion ac ereill i'w dwyn i ben. Dyma'r modd y mae Duw bob amser yn dwyn oddiamgylch gyflawniad y proffwydoliaethau. Rhaid defnyddio moddion tebyg i'r rhai a ddefnyddiwyd gan Mr. Richard mewn cysylltiad â'r Gymdeithas Heddwch i lefeinio gwledydd cred â'r syniad hwn. Rhaid pregethu yr egwyddorion hynny o'n pulpudau yn fwy, rhaid ennill meddiant mwy llwyr, os gellir, o'r Wasg, rhaid gwrthweithio ysbryd milwrol y deyrnas, rhaid addysgu ein Seneddwyr, a rhaid pregethu