Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/332

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

athrawiaeth Mr. Richard ar y llwyfannau ac yn y Senedd yn fwy hyf a dewr nag erioed.[1]

2. Yn 1895 gwnaed symudiad pwysig iawn i wneud Cytundeb rhwng Prydain a'r Unol Daleithiau i beri fod pob cwestiwn rhwng y ddwy wlad, nas gellid ei derfynnu trwy ymdrafodaeth, i gael ei derfynnu trwy Gyflafareddiad. Derbyniwyd y newydd fod y fath beth ar droed gyda llawenydd mawr gan bobl oreu y ddwy wlad. Ffurfiwyd Cytundeb, a llaw-arwyddwyd ef yn Washington gan y diweddar Syr Julian Pauncefote ar ran Prydain, a chan Mr. Olney ar ran yr Unol Daleithiau. Ond, fel y gwyddis, fe daflwyd rhwystrau ar y ffordd, ac nid aeth y mater trwodd i orffeniad. Ond, fel yr ysgrifenna Justin McCarthy yn ei gyfrol ddiweddaf, "gellir dweud fod meddwl goreu Gweriniaeth yr Unol Daleithiau trwy ei gwŷr cyhoeddus a'i newyddiaduron a'i phobl yn hollol o blaid y Cytundeb. Nis gellir yn hir rwystro i egwyddor a gefnogwyd mor gyffredinol ar ddau du y Werydd gael dod i weithrediad."[2] Na ellir, yn ddiau, ac ond iddo gael ei gadarnhau, gallwn

ddefnyddio geiriau y ddiweddar Frenhines wrth

  1. Beth pe ceid plaid gref unedig o wŷr tebyg i Mr. Richard yn Senedd Prydain y dyddiau hyn, dynion a gadwent y cwestiwn hwu gerbron yn barhaus? Byddai effaith y cyfryw blaid ar farn y wlad, ac ar ddeddfwriaeth y Senedd yn anrhaethol werthfawr. Cariodd Mr. Richard ei gynhygiad o blaid Cyflafareddiad trwy'r Tŷ yn 1873, er gwaethaf pob rhwystr. Beth sydd yn rhwystro i bob Aelod Cymreig fod yn "iach yn y ffydd" ar y cwestiwn hwu, ac i ymdrechu o blaid y ffydd honno? Dim, ond cael etholwyr Cymru grefyddol i fynnu cael hynny. Mae'r llwyddiant yn eu llaw hwy.
  2. History of our own Times from 1800 to year of Jubilee, t.d. 449.