Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/333

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

agor Senedd 1897, pan yn cyfeirio at y Cytundeb hwn,—"Yr wyf yn gobeithio," meddai,“ y bydd y trefniant yn meddu gwerth ychwanegol, trwy argymhell i Alluoedd ereill ystyriaeth o egwyddor trwy ba un y bydd y perygl o ryfel yn cael ei leihau yn fawr."

3. Ond y symudiad mwyaf pwysig, yn ddiau yn y cyfeiriad hwn, ydyw yr un a wnaed gan Ymherawdwr ieuanc Rwssia, ar y 14eg o Awst, 1898, pan y danfonodd allan trwy law ei Weinidog Tramor, Ysgrif Ymherodrol (Rescript) wedi ei gyfeirio at holl gynrychiolwyr y Gwledydd Tramor yn St. Petersburg.[1] Amcan yr Ysgrif oedd galw sylw at y mawr niwed a wneir gan ddarpariadau milwrol cynhyddol y gwahanol deyrnasoedd. Mewn gair, nid oedd ond datganiad o'r gwirioneddau pwysig a bregethwyd gan gyfeillion Heddwch am flynyddoedd. Nid oes ynddo un pwynt na chafodd ei drafod yn fanwl gan Mr. Richard yn ei areithiau ar y Cyfandir ac yn Senedd Prydain. Cynhygia yr Ymherawdwr fod Cynhadledd yn cael ei chynnal i ystyried y mater hwn, ac i ddwyn oddiamgylch y syniad goruchel i geisio gwneud heddwch cyffredinol yn fuddugoliaethus ar elfennau terfysg ac anghydgordiad." Tarawyd y byd â syndod gan yr Ysgrif hon, ond derbyniwyd hi gyda chymeradwyaeth gan brif deyrnasoedd y byd, a chan Seneddwyr, Esgobion, a gwŷr dylanwadol o bob math. Ar ol danfon allan Ysgrif arall yn nodi yr amcan yn fwy manwl,

trefnwyd fod y Gynhadledd i gyfarfod yn yr

  1. Nid dyma'r Ymherawdwr cyntaf i symud yn y cyfeiriad hwn. Gwelt.d. 72.