Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/335

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Ond y mae hyn yn gamgymeriad dybryd. Er y boddwyd sŵn ei gweithrediadau gan drwst magnelau rhyfel y Transvaal, ac er na ddaethpwyd i benderfyniad gyda golwg ar ddiarfogiad, credwn fod y Gynhadledd ynddi ei hun yn ffaith orbwysig yn ei ganlyniadau yn hanes y ganrif ddiweddaf, yn enwedig pan gofiwn ei fod yn ddealltwriaeth ynddi nad oedd hwn ond y gyntaf o gyfres. Ond nid terfynnu heb wneud dim a wnaed. Hyd yn oed gyda golwg ar leihad yn y darpariadau milwrol, pasiwyd yn unfrydol fod y cyfryw "leihad i'w ddymuno yn fawr er mwyn lles moesol a naturiol dynoliaeth," a bod y pwnc i gael ei gyfeirio yn ol i ystyriaeth y gwahanol lywodraethau. Dyma ddatganiad gan gynrychiolwyr prif deyrnasoedd y ddaear, fod yr hyn y dadleuid drosto gan Mr. Cobden a Mr. Richard ac ereill, yn beth i'w fawr ddymuno, ac y dylai y gwahanol deyrnasoedd ei gario allan yn ymarferol. Ai peth bychan oedd hyn i'w wneud yn y Gynhadledd gyntaf? Yn ychwanegol at hyn, fe basiwyd cyfres faith o erthyglau yn rheoleiddio dygiad rhyfel ymlaen er mwyn ei wneud yn llai creulon ac yn fwy cydweddol â gwareiddiad y dyddiau hyn.

Ond y gwaith mawr a wnaed gan y Gynhadledd hon oedd ynglŷn a'r pwnc o Gyflafareddiad fel moddion i osgoi rhyfeloedd yn y dyfodol. Pasiwyd yn unfrydol fel sylfaen yr ymdrafodaeth, eu bod oll yn ymrwymo i geisio sicrhau terfyniad heddychol i bob anghydfyddiaeth a allai godi rhwng teyrnasoedd. Ie, mwy,—a dymunem bwysleisio y ffaith hon, oblegid credwn mai ychydig sydd wedi ei sylweddoli,— fe benderfynwyd fod math o lýs sefydlog yn cael ei ffurfio, at yr hwn y gellir cyfeirio